Argyfwng

Os oes gennych chi argyfwng plymio, ewch at eich tap prif gyflenwad a cheisio diffodd y dwr i osgoi rhagor o ddifrod. Fel arfer mae’r stop tap o dan sinc y gegin neu yn ystafell y toiled lawr grisiau. Os na fedrwch chi ddod o hyd i’r stop tap yn eich cartref chi, edrychwch am gaead haearn bwrw bach â’r gair ‘WATER’ arno yn y palmant y tu allan i’ch cartref.

Mae plymwyr Adams Emergency Plumbing ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Rydym ni’n mynd y filltir ychwanegol i dderbyn eich galwad: rydym ni’n gweithredu gwasanaeth ateb llawn sy’n sicrhau eich bod chi’n siarad â phlymer proffesiynol a chymwysedig a fydd yn cynnig cyngor ac arbenigedd i’ch helpu i ddatrys y broblem plymio.

Pan fyddwch chi’n ffonio Adams Emergency Plumbing byddwn ni’n ymateb yn gyflym ac yn gweithio’n sydyn i adnabod ac unioni’r problemau. Rydym ni’n trwsio yr holl broblemau plymio brys, yn cynnwys pibellau wedi byrstio, pibellau wedi blocio, pibellau a rheiddiaduron sy’n gollwng, pwmpiau gwres canolog diffygiol a thoiledau a draeniau wedi blocio.

Rhoir gwarant ar bob gwaith trwsio a gwaith gosod. Ymfalchiwn yn ein gwaith, gan roi tawelwch meddwl i chi pan fo’r mwyaf o’i angen.

Yn achos argyfwng plymio ffoniwch 07966 581 757 os gwelwch yn dda.