Systemau gwresogi dwr poeth solar

Rydym ni’n caru gwresogi solar! Mae’n effeithlon, glân a gosgeiddig. Ac mae’r gost wedi lleihau’n aruthrol dros y deng mlynedd diwethaf. Roedd yn arfer costio tua’r un faint â system wresogi newydd yn ei chyfanrwydd. Bellach mae’n debycach i gost adnewyddu’r bwyler yn unig.

Yn wahanol i adnewyddu bwyler dylai weithredu yn ddidrafferth am 10 mlynedd gyda’r nesaf pet hi ddim o gostau i redeg y system, a dim gwaith trwsio na chynnal a chadw. Nid oes fawr ddim a all fynd o’i le gan mai’r unig ddarn symudol a’r unig ran haearn yw’r pwmp, felly dim ond un peth yn y system gyfan a allai fethu neu gyrydu. Y peth gorau yw digonedd o ddwr poeth am ddim! Rydych chi’n annhebygol o fod angen defnyddio eich system gwresogi dwr rhwng mis Ebrill a Medi a gweddill y flwyddyn, hyd yn oed ynghanol gaeaf, y cyfan fydd angen ei wneud fydd ychwanegu at y dwr ar dymheredd llawer uwch na heb fod ag ynni solar. Mae’r arbedion ynni blynyddol oddeutu £300+ a llawer mwy na hynny os mai olew yw eich prif ffynhonnell gwresogi.

Felly tra bo rhai Peirianwyr Nwy wedi cael eu hyfforddi i ddweud wrthych chi bod arnoch chi angen bwyler newydd bron bob tro maen nhw’n ymweld â chi, fe wnawn ni roi cyngor cytbwys a phwyllog i chi ynghylch yr hyn sydd orau i’ch sefyllfa chi. Efallai bod gennych chi hen fwyler mewn cyflwr gwych a wnaiff oroesi un newydd. Efallai y gwnewch chi arbed llawer mwy â system solar na bwyler newydd. Ac fe allech chi arbed yr un faint eto â chamau arbed ynni megis lleihau drafftiau, gosod deunydd inswleiddio yn y waliau ac yn y to (gallai hyn fod am ddim), gosod falfiau thermostatig ar y rheiddiaduron a thermostat ystafell. Fe gewch eich synnu faint o systemau gwresogi sy’n rhai sy’n cael ei switsio ymlaen neu i ffwrdd ar y rheolydd ac sy’n dibynnu arnoch chi’n mynd yn rhy boeth ac yn codi i ddiffodd y gwres. Gellir gosod yr holl welliannau newydd modern hyn ar hen system wresogi, heb orfod adnewyddu’r bwyler.