Cawodydd

Mae cwmni Adams Emergency Plumbing yn trwsio, adnewyddu a gosod cawodydd pwerus ac effeithlon i weddu i’ch union anghenion chi. Darparwn y gwasanaeth llawn, o drwsio cawod a thapiau sy’n gollwng i osod uned cawod newydd. Os ydych chi’n ychwanegu cawod i ystafell ymolchi sy’n bodoli eisoes, fe wnawn ni sicrhau ei fod yn cael ei osod mewn modd sy’n cyd-fynd a chydweddu i’r eitemau sydd yno eisoes. Rydym ni’n gosod cawodydd camu i mewn, cawodydd uwchben y bath a chawodydd i’r rhai ag anawsterau symuedd. Rydym ni’n trwsio cawodydd sydd yno eisoes os ydynt yn gollwng neu’n methu.

Wrth ddewis y gawod gywir ar gyfer eich cartref fe wnawn ni drafod yr holl ddewisiadau posibl gyda chi er mwyn dod o hyd i’r model a’r gwneuthuriad mwyaf addas i’ch anghenion chi. Gallwn osod cawodydd trydan sy’n darparu dwr poeth yn ôl y galw o’r prif gyflenwad dwr oer; cawod gymysgu sy’n defnyddio gwasgedd dwr yn unig neu gawod bwer sy’n defnyddio pwmp.

Rhoir gwarant ar yr holl waith gosod a gwaith trwsio.

Os hoffech gael dyfynbris diymrwymiad a threfnu apwyntiad ffoniwch 01978 824 550 / 01244 470 146 os gwelwch yn dda.