Tystlythyrau

Argymhellir yn fawr!

"Mae’n rhaid mai Mike yw’r crefftwr mwyaf proffesiynol a chymwys sy’n rhoi pwyslais ar ofalu am y cwsmer i mi ddod o hyd iddo erioed! Ymatebodd yn gyflym iawn a’m hysbysu ynghylch pryd i ddisgwyl ei ymweliad. Fe wnaeth waith rhagorol o drwsio fy rheiddiadur oedd yn gollwng: mae o fel newydd! Fyddwn i ddim yn oedi o gwbl cyn defnyddio Adams Emergency Plumbing eto!"

Denise Chilton, Farndon

Yr union beth sydd ei angen mewn argyfwng!

"Roedd gwasgedd ein bwyler wedi gostwng ac roedden ni’n medru arogli plastr llaith. Fe ddaethon ni o hyd i lecyn brown gwlyb anferthol ar nenfwd ein ystafell wely sbâr. Fe wnaethom ni lwyddo i arafu’r llif tra’n ffonio Mike Adams. Fe ddaeth Mike draw ar unwaith ac ymdrin â’r sefyllfa yn syth. Roedd yr hen bibellau yn yr atig wedi chwalu ac roedd dwr poeth yn chwistrellu i bobman! Fe wnaeth Mike drwsio’r difrod a gwirio pob rheiddiadur i wneud yn siwr bod popeth yn gweithio’n iawn. Roedd y gwasanaeth yn rhagorol, trwyadl a chyfeillgar!"

Ann Maund, Pontybodkin

Sylw gwych i bob manylyn!

"Gwnaeth cwmni Adams Emergency Plumbing osod cawod, troedle cawod a sgrîn gwydr yn ein hystafell gawod ni. Mae’n edrych yn rhagorol ac roedd y sylw i bob manylyn yn wych. Fe wnaeth Mike lwyddo i ddod o hyd i ddwy deilsen yr un fath â’r rhai oedd yno eisoes, hyd yn oed! Roedd Mike a Matt yn gyfeillgar iawn ac roeddem yn medru ymddiried ynddynt; roeddwn i’n medru nôl a danfon y plant i ac o’r ysgol tra roedden nhw’n gweithio heb orfod poeni o gwbl!"

Melanie Tasker, Chirk Bank

Problem wedi ei datrys yn effeithlon gan arbenigwyr!

"Roedd y ffaith bod Mike wedi ymateb ar unwaith ar fore Sadwrn yn galonogol iawn. Ar ôl cyrraedd fe wnaeth ddatrys y broblem yn effeithlon a phroffesiynol ac, yn bwysiach fyth, roedd ei ffi yn rhesymol! Diolch yn fawr iawn i fusnes lleol a ddarparodd wassanaeth da ar y penwythnos!"

Mr Venables, Pulford