Pwmp fflysio

Mae defnyddio pwmp fflysio yn cael gwared ar lysnafedd, rhwd a mannau oer niweidiol o’ch system gwres canolog. Argymhellir hyn i wella effeithlonrwydd eich system gwres canolog, lleihau swn o’ch bwyler a dileu’r bygythiad o broblemau plymwaith potensial.

Os oes gennych chi fannau oer yn eich rheddiaduron, swn gormodol o’ch bwyler neu bod eich dwr yn araf iawn yn cynhesu, bydd defnyddio’r pwmp fflysio yn cynorthwyo i wella perfformiad cyffredinol eich system gwres canolog.

Mae cwmni Adams Emergency Plumbing yn cynnig y gwasanaeth hwn ar ei ben ei hun, neu gellir ei gynnwys fel rhan o’r broses o osod bwyler newydd.

Rhoir gwarant ar yr holl waith gosod a gwaith trwsio.

Os hoffech gael dyfynbris diymrwymiad a threfnu apwyntiad ffoniwch 01978 824 550 / 01244 470 146 os gwelwch yn dda.